Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, 5 Ebrill 2019

Papur 1: Llywodraeth Cymru - Blaenoriaethau ar gyfer gweddill cyfnod y Pumed Cynulliad

 

Blaenoriaethau ar gyfer gweddill cyfnod y Pumed Cynulliad

 

Cyflwyniad

 

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio grym datganoli i wneud ein gwlad yn gryfach ac yn decach.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ar bob cam o’u bywydau. Llwyddodd ein rhaglen flaengar o brentisiaethau i bobl o bob oed i gychwyn 16,000 yn 2017/18 yn unig. Er gwaetha'r cyni sy'n parhau, rydym yn darparu mwy o gymorth uniongyrchol nag erioed i fusnesau bach drwy ein Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr, sydd wedi cael ei ymestyn i ymateb i anghenion manwerthwyr. Rydym wedi cynyddu'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn gorfod ariannu cost lawn gofal preswyl i £40,000 - ac fe fydd hyn yn codi i £50,000 o fis Ebrill 2019. Rydym wedi cyflymu'r ddarpariaeth o 30 awr yr wythnos o ofal plant rhad ac am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio.

 

Dros gyfres o gyllidebau rydyn ni wedi rhoi blaenoriaeth i wariant ar ysgolion, ac rydym ar y trywydd iawn i fuddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion, wrth ochr diwygiadau uchelgeisiol i'r cwricwlwm, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r Gronfa Triniaethau Newydd gwerth £80 miliwn yn golygu y gall pobl ar draws Cymru gyrraedd at gyffuriau a thriniaethau newydd yn gyflym, ble bynnag y maent yn byw. Mae amseroedd aros am driniaeth GIG Cymru yn disgyn - arwydd o'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed gennym yn y gwasanaeth iechyd - wrth iddynt barhau i godi yn Lloegr.

 

Gwelwyd y cynnydd hwn er gwaetha'r cyfnod heriol sydd ohoni. Mae naw mlynedd o gyni gorfodol Llywodraeth y DU wedi cael effaith ddifrifol ar Gymru.

 

Pe bai cyllideb Cymru wedi cynyddu yn unol â gwariant cyhoeddus hyd at 2010, fe fyddem wedi cael £6 biliwn yn fwy i fuddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru na'r hyn sydd gennym heddiw. O ganlyniad i doriadau cyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU ar gyllideb Cymru, ar sail tebyg at ei debyg, mae'n cyllideb 5% yn is mewn termau real yn 2019 na'r hyn oedd yn 2010-11 – mae hyn yn cyfateb i £800 miliwn yn llai. Mae llai o arian yn golygu bod angen gwneud dewisiadau anodd. Ein blaenoriaeth o'r cychwyn - ac o hyd - yw diogelu pobl Cymru rhag effeithiau gwaethaf y cyni ac ansicrwydd dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n golygu gwarchod gwasanaethau cyhoeddus datganoledig rhag effeithiau gwaethaf y cyni, drwy helpu pobl i gynnal eu cyflogau, a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

 

Mae'n buddsoddiadau yn ein Cyllideb eleni, mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol parhaus, yn canolbwyntio ar berfformiad a darpariaeth gwasanaethau rheng flaen y mae pobl a chymunedau yn dibynnu arnynt ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Rydym yn gweithredu mewn ffordd ataliol, gan fuddsoddi nawr i helpu i atal problemau rhag codi yn y dyfodol, yn arbennig yn y blynyddoedd cynnar, gwell iechyd meddwl a chefnogi gofal cymdeithasol. Rydym wedi cynnal buddsoddiad yng ngweithlu'r sector cyhoeddus, sef ein hased fwyaf yn y gwasanaethau cyhoeddus, gyda chytundebau cyflog wedi'u hariannu'n llawn i athrawon, staff Addysg Uwch a staff GIG Cymru.

 

Blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y llywodraeth

 

Mae gwaith y Llywodraeth hyd yma yn cynnig sylfaen gadarn i adeiladu arni. Ffyniant i Bawb yw strategaeth genedlaethol y Llywodraeth – bydd yn parhau i gael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a'i bod yn parhau i fod yn ymarferol yng ngoleuni heriau'r cyni estynedig a'n hymadawiad anhrefnus â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r chwe blaenoriaeth a osodwyd yn Ffyniant i Bawb - y blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau a datgarboneiddio - yn adlewyrchu pwysigrwydd cymryd camau cynnar a chyson. Gyda'i gilydd, maent yn cwmpasu'r meysydd lle gall a lle dylai'r Llywodraeth wneud y cyfraniad mwyaf i  unigolion a'u cymunedau ehangach. 

 

Mae'r dasg o greu Cymru fwy cyfartal, ffyniannus a gwyrdd yn mynd ymhell y tu hwnt i'r Llywodraeth - mae'n gyfrifoldeb yr ydym yn ei rannu. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i ymdrechu gyda'n gilydd i gyflawni'r dyheadau cyffredin hyn.

 

 

Cymru sy’n fwy Cyfartal

 

Nid yw’n dderbyniol mewn cymdeithas fodern, amrywiol i fywydau pobl gael eu diffinio gan ddosbarth cymdeithasol, rhyw, hil, rhywioldeb neu anabledd. 

 

Rwyf wedi ymrwymo i weld Cymru yn wlad ffyniannus, lle gall pawb fanteisio ar hynny a lle mae ymrwymiad at gyfle cyfartal hefyd yn golygu ymrwymiad at ganlyniad cyfartal. 

 

Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bawb. Bydd y rhai mwyaf anghenus yn cael y sylw sydd ei angen. Dylid ein barnu ni yn ôl y ffordd y mae'r mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn elwa ar ein polisïau.

 

Bydd cydraddoldeb yn parhau i fod yn sylfaen i’n holl ddyheadau polisi, ac fe fyddwn yn gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol darn Ran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Byddwn yn ystyried ein holl bolisïau o'r cyfeiriad hwn.

 

Rydym wedi ymrwymo i leddfu effeithiau gwaethaf tlodi ar fywydau plant. Byddwn yn canolbwyntio ein gwaith ar 1,000 o ddiwrnodau cyntaf bywyd plentyn. Rydym yn cynnal buddsoddiadau presennol mewn gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at blant mewn tlodi, gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Plant Iach Cymru. Byddwn yn cynnal cynllun peilot 'Bwndel Babi' fel rhodd i groesawu babanod newydd yng Nghymru, yn llawn eitemau hanfodol ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd cyntaf.

 

Gellir gweld ein diwygiadau addysg yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Drwy'r diwygiadau hyn byddwn yn codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Bydd buddsoddiad cyson, wedi'i dargedu at ysgolion yn cyd-fynd â'r diwygiadau hynny. Erbyn diwedd y tymor, byddwn wedi buddsoddi £100 miliwn i godi safonau mewn ysgolion ac fe fydd dros hanner y buddsoddiad hwn yn ysgogi gwelliannau o ran dysgu ac addysgu. Mae gweithlu dysgu ymroddedig a brwdfrydig yn hanfodol. Rydym wedi darparu £23.5 miliwn i awdurdodau lleol i ariannu'r dyfarniad cyflog i athrawon ysgol a £15 miliwn o gymorth ar gyfer cyflog athrawon. Rydym yn darparu lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad mewn datblygu proffesiynol, wrth i'n hathrawon baratoi ar gyfer y cwricwlwm radical newydd.

 

Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i helpu plant o gefndir mwy difreintiedig i wneud yn siŵr eu bod yn y lle gorau i fanteisio ar eu haddysg. Rydym wedi cyhoeddi ffrwd ariannu newydd - Cynllun Mynediad PDG - ac wedi darparu £1.7 miliwn i awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu rhieni i dalu costau cyffredinol anfon eu plant i'r ysgol, gan gynnwys costau gwisg ysgol, dillad chwaraeon yn yr ysgol a gweithgareddau ehangach. Bydd hyn yn cynyddu i £5.15 miliwn yn 2019/20. Os bydd ein cyllideb yn caniatáu, ar ôl yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant arfaethedig, rwy'n ymrwymo i fuddsoddi ymhellach yn y Gronfa yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.

 

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n gywir. Y flaenoriaeth o hyd yw cynyddu nifer y plant sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cymryd rhan yn eu haddysg yn llawn. Mae'n destun pryder i mi ers amser bod prydau ysgol ond ar gael yn ystod y tymor. Cyflwynwyd y rhaglen Bwyd a Hwyl dros y Gwyliau, y byddwn nawr yn ei ymestyn, gan gynyddu ein buddsoddiad i £0.9 miliwn - dyma'r unig raglen o'i bath wedi'i hariannu'n genedlaethol yn y DU.

 

Atal sydd wrth galon ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd - ac mae hyn wedi'i ymgorffori yn Cymru Iachach. Rydym am weld system sy'n gwella iechyd a llesiant drwy wella ansawdd gwasanaethau a'r mynediad atynt, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a mwy o wasanaethau ar gael mewn cymunedau lleol.

 

Rydym eisoes yn cyflwyno modelau gofal newydd drwy'r rhaglen drawsnewid gwerth £100 miliwn; datblygwyd y prosiect cyntaf gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro dan yr enw 'Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned’. Bydd hyn yn gweld gwaith partneriaeth rhwng y GIG, gwasanaethau awdurdodau lleol, elusennau a'r sector gwirfoddol, er mwyn sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn nes at y cartref.

 

Er i ni gael rhywfaint o lwyddiant o ran ymddygiadau iach a chanlyniadau, mae gormod o amrywiad o hyd yn iechyd pobl ar draws Cymru. Byddwn yn hyrwyddo awyr lân i sicrhau bod modd i'n plant fynd i'r ysgol, gwneud ymarfer corff a chwarae yn ddiogel ac yn gwneud y pethau bach sy'n helpu i hyrwyddo iechyd y cyhoedd ar draws ein gwlad, fel sicrhau bod dŵr yfed ar gael yn rhwydd. 

 

Mae cynifer o'n dyheadau ar gyfer Cymru yn dibynnu ar gael sector llywodraeth leol llwyddiannus a chydweithredol. Mae angen y llywodraeth leol orau bosib yng Nghymru, sy'n medru cyflawni swyddogaethau sylfaenol fel partneriaid strategol mewn addysg, tai, gofal cymdeithasol a'r amgylchedd. Bydd hyn ar sail cydweithrediad a pharch o'r ddwy ochr, o fewn cyd-destun deddfwriaethol sy'n ei gwneud mor hawdd â phosibl i gynghorau lleol gydweithio â'i gilydd, a gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Byddwn yn deddfu i ddarparu'r fframwaith angenrheidiol ar gyfer llywodraeth leol gref, gyda diwygio etholiadol i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

 

 

 

Cymru sy’n fwy Ffyniannus

 

Gall pob un ohonom ni elwa o gael economi ffyniannus. Y ffordd fwyaf effeithiol o oresgyn tlodi; i gael bywydau boddhaus a gwella iechyd a llesiant, yw drwy greu swyddi gwerth chweil, am gyflog teg. 

 

Er mwyn cyflawni hyn, mae Cymru angen gweithlu medrus, sy'n cael eu cefnogi gan seilwaith ffisegol a digidol o'r radd flaenaf. Bydd buddsoddi mewn sgiliau, trafnidiaeth a band eang cyflym yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

 

Wrth gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru o fis Ebrill 2019, bydd economi ffyniannus yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn mwy o wasanaethau cyhoeddus.

 

Rwy'n dweud yn glir nad oes modd dilyn polisi o dwf economaidd waeth beth yw'r gost, ond gall y twf economaidd cywir arwain at fanteision eang. Mae Cymru fwy ffyniannus yn golygu trechu tlodi drwy greu economi lewyrchus, sy'n gyfiawn yn gymdeithasol ac y gall pawb fanteisio arni mewn ffordd deg.

 

Mae'r egwyddorion hyn yn rhan annatod o'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.  Rydym yn cyflwyno Contract Economaidd sy'n sicrhau enillion cymdeithasol ar ein buddsoddiad cyhoeddus. Yn gyfnewid am fuddsoddiad cyhoeddus, rydym yn disgwyl i gyflogwyr gymryd eu cyfrifoldebau o ddifri, a mabwysiadu arferion cyflogaeth gorau. Nid yw hyn yn faich llafurus, bydd yn fanteisiol iddyn nhw hefyd. 

 

Wrth galon ein hymrwymiad at bartneriaeth gymdeithasol mae dealltwriaeth y bydd gan y llywodraeth, busnesau ac undebau llafur fuddiannau cyffredin, a bod mantais i bawb wrth gydweithio. Y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan fater yw'r rhai sydd yn y lle gorau i’w ddatrys. 

 

Byddwn yn deddfu i osod ein model partneriaeth gymdeithasol lwyddiannus ar sail statudol.

 

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r agenda gwaith teg. Gall gwaith teg helpu i sicrhau economi gryfach, fodern, gynhwysol. Gall helpu i roi sylw i anghydraddoldeb, drwy hyrwyddo llesiant a chydlyniant cymunedol, ac mae'n cyfrannu at dwf a ffyniant cenedlaethol. Mae nifer o gwmnïau llwyddiannus eisoes yn cymryd camau i fabwysiadu arferion busnes a chyflogaeth cyfrifol. Gall polisïau'r llywodraeth a threfniadau sefydliadol mewn nifer o feysydd ddylanwadu ar y ffordd y mae cymunedau neu unigolion yn medru cymryd rhan yn y farchnad lafur a helpu i lywio natur gwaith a chyflogaeth deg. Bydd y Comisiwn Gwaith Teg yn adrodd cyn hir ar ffyrdd y gall arferion cyflogaeth ar draws Cymru ddarparu gwell hawliau cyflogaeth a llwybrau gyrfa.

 

Rydym wedi cydnabod y cyfraniad y gall yr economi sylfaenol ei wneud i Gymru. Bydd ein dull gweithredu ar yr economi sylfaenol yn canolbwyntio ar ansawdd a swm y gwaith mewn sectorau sylfaenol. Mae'r economi sylfaenol yn benthyg ei hun i olrhain lleol ac yn cynnig cyfle ardderchog i fanteisio i'r eithaf ar fuddiannau ehangach gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy ddulliau rhanbarthol a lleol sy'n helpu i gryfhau economi Cymru a chreu swyddi a hyfforddiant. Byddwn yn   parhau i ddatblygu prosiectau sy'n ceisio cadw arian cyhoeddus o fewn y cymunedau lle mae'n cael ei wario.

Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i sicrhau Cymru iach, felly rhan bwysig o'r gwaith i symud ein hagenda yn ei flaen fydd herio cyflogwyr, ysgolion a sefydliadau trydydd sy'n cael eu cefnogi gan y llywodraeth i chwarae eu rhan i greu Cymru iachach. Mae hyn yn rhan o’r egwyddor sy'n rhan annatod o'r contract economaidd, sef y byddwn yn disgwyl i sefydliadau chwarae rhan gyflawn yn ffyniant Cymru yn gyfnewid am arian gan y Llywodraeth. 

 

Rydym yn buddsoddi yn y tymor hir i helpu pobl i fod yn rhan o Gymru ffyniannus, ac elwa'n uniongyrchol. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn mesurau tymor byr a fydd yn helpu incwm pobl i fynd ymhellach heddiw – gan ddarparu cyflog cymdeithasol. Drwy bolisïau fel presgripsiynau am ddim i bawb, teithio am ddim i bobl hŷn, parhau â'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, brecwast am ddim mewn ysgolion, gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, rydym yn gwneud yn siŵr bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi, ac yn lleddfu pwysau ariannol bywyd bob dydd.

 

Cymru sy'n fwy Gwyrdd

Mae Cymru sy'n fwy gwyrdd yn golygu creu gwlad gwirioneddol gynaliadwy, lle caiff adnoddau eu defnyddio er lles pawb a'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol arloesol yn golygu bod rhaid i bob sefydliad cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wneud mwy na dim ond ystyried effaith uniongyrchol unrhyw benderfyniad. Rhaid hefyd ystyried effeithiau tymor hirach y penderfyniad hwnnw o ran ffyniant pobl Cymru, ei hamgylchedd, ei diwylliant a'i chymunedau.

 

Yn anffodus, mae gormod o enghreifftiau o lefydd sydd wedi cael eu creithio gan ddatblygu anghynaliadwy yn y gorffennol. Ond does dim modd i'r llywodraeth ddarparu gwell amgylchedd i genedlaethau'r dyfodol wrth ei hun, a does dim modd i un wlad unigol fel Cymru gyflawni hyn wrth ei hun chwaith. Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldebau byd-eang o ddifri, ac fe all cyfres fach o gamau gael effaith sylweddol.

 

Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu a chyflawni cynllun twf amgylcheddol a fydd yn nodi sut y gallwn wyrdroi rhywfaint o'r niwed amgylcheddol y mae Cymru wedi'i ddioddef ac atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth rydyn ni'n ei weld ar hyn o bryd. Gall mentrau cymharol syml fel perllannau cymunedol, coedwig genedlaethol newydd, dyblu nifer y rhandiroedd, cynyddu mynediad at ofod gwyrdd a phlannu blodau gwyllt arwain gyda'i gilydd at bethau gwell.

 

Byddwn yn parhau i gymryd camau yn erbyn technolegau sy'n bygwth yr amgylchedd yng Nghymru. Byddwn yn cynnal ac yn cryfhau ein gwaharddiad ar ffracio. Fodd bynnag, dydy amcanion amgylcheddol a thwf economaidd ddim o reidrwydd yn ddau beth cwbl ar wahân. Mae cefnogi'r twf mewn diwydiannau gwyrdd yn dda i'r amgylchedd ac yn dda i'r economi. Yng Nghymru, ceir digonedd o'r deunyddiau crai sydd angen i ddarparu ynni mewn ffordd gynaliadwy, ac un o flaenoriaethau'r llywodraeth yw buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Mae'n bwysig i ni droi ein buddsoddiad a'n harloesi yn fanteision economaidd, gan ganiatáu i ni ddatblygu cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru. Rwy'n disgwyl i hyn gynyddu mewn pwysigrwydd dros yr  ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Rwy'n dweud yn glir y gallwn ddefnyddio polisïau ac ymyriadau'r llywodraeth er lles yr amgylchedd gan symud ymlaen ar ein nodau polisi eraill ar yr un pryd. Er enghraifft, mae'n rhaglen o ôl-osod cartrefi i arbed ynni yn gwella ansawdd y stoc dai, cefnogi swyddi lleol, lleihau allyriadau a chyfrannu at leihau tlodi tanwydd. Dyma'r math o ymyrraeth a ragwelwyd wrth ddatblygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

 

 

 

Brexit

 

Y gwir yw y bydd ymadawiad anhrefnus â'r Undeb Ewropeaidd yn amharu ar ein gallu i gyflawni ein polisïau ac yn gwaethygu profiadau pobl Cymru ar yr un pryd.

 

Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru, gan hyrwyddo ein buddiannau a'n blaenoriaethau fel y gwelir yn y Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru. Roedd y papur yn gosod ein safbwynt, a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynllun ymarferol ar gyfer y math gorau o Brexit i Gymru - ac yn wir i'r DU yn gyfan. Er bod Llywodraeth y DU wedi symud yn araf tuag at ein safbwynt ni, mae wedi colli'r fantais negodi y gallai fod wedi'i chael pe bai wedi cydnabod pwysigrwydd sicrhau'r berthynas agosaf bosib rhwng y DU yn gyfan a'r UE heb fod yn aelod. Rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau mwyafrif yn Senedd y DU ar gyfer y math o Brexit sydd wedi'i seilio ar y model Norwy plws a osodwyd gennym ni, ar y cyd â Phlaid Cymru, yn Diogelu Dyfodol Cymru. Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i berthynas economaidd agosach yn yr hirdymor gyda'r UE, gan gynnwys cymryd rhan mewn undeb tollau a'r Farchnad Sengl, ynghyd â chydweddiad rheoleiddiol â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr UE.

Roedd disgwyl i'r DU ymadael â'r UE ddiwedd y mis, ac eto, ar yr unfed awr ar ddeg, mae ansicrwydd o hyd ynghylch pryd a sut y bydd y DU yn ymadael. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus ac yn achosi niwed hirdymor. Bydd Brexit heb gytundeb yn arwain at ganlyniadau negyddol tu hwnt i weithwyr, busnesau, addysg uwch ac addysg bellach, ac economi Cymru. Yn wir, rydym eisoes yn gweld effaith dwy flynedd o ansicrwydd, gyda Chymru yn gweld dirywiad yn nifer y cwmnïau sy'n gwneud penderfyniad terfynol ynghylch buddsoddi yma, a'r bygythiad o weld busnesau'n cau bellach yn cael ei wireddu. Byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith uniongyrchol ar safonau byw dros y tymor hirach, gydag incwm ar gyfartaledd hyd at rhwng £1,500 a £2,000 yn is na'r hyn y byddent fel arall. Mae hyn ar ben y lefel isaf o dwf ers canlyniad y refferendwm, y mae Banc Lloegr yn credu sydd eisoes wedi arwain at ostyngiad o £800 ar gyfartaledd i incwm aelwydydd. Rydym hefyd wedi dweud yn glir bod rhaid i ni, fel Llywodraeth gyfrifol, wneud yr hyn y gallwn i baratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb. Mae paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymadael â'r UE heb gytundeb yn canolbwyntio ar 4 ffrwd waith: datblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod llyfr statud gweithredol ar gael ar y diwrnod ymadael (sy'n symud ymlaen yn dda iawn), gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau paratoadau gweithredol, paratoadau Argyfyngau Sifil a datblygu camau penodol yng Nghymru yn ychwanegol at y gwaith uchod ar fesurau ar draws y DU.

Rydym wedi sefydlu amrywiol strwythurau i drafod â sefydliadau ledled Cymru, ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, er mwyn medru deall effaith Brexit a'r ffordd orau i helpu'r sefydliadau hyn. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i sefydliadau ar draws Cymru i baratoi ar gyfer Brexit gyda chronfa £50m benodol. Bydd hyd at £45,000 ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru, a £200,000 arall ar gael iddynt drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd yr arian yn sicrhau bod adnoddau penodol ar gael ym mhob awdurdod lleol i wneud y gwaith cynllunio, cydlynu a pharatoi angenrheidiol. Bydd yn cael ei gefnogi a'i gydlynu gan CLlLC ar draws yr holl awdurdodau lleol er mwyn osgoi dyblygu gwaith, sicrhau'r effeithiolrwydd mwyaf ac annog cyflawni ar draws llywodraeth leol. Rydym yn darparu £500,000 er mwyn helpu Fforymau Cydnerthedd Lleol i gyflawni eu swyddogaethau o ran trefniadau gorchymyn, rheoli a chydlynu Operation Yellowhammer yng Nghymru, gan gynyddu niferoedd staff i gydlynu'r gwaith cynllunio a bodloni'r ymrwymiadau adrodd. Mae £500,000 wedi'i neilltuo i ehangu'r ddarpariaeth o wybodaeth a chymorth, gan gynnwys cyngor ynghylch mewnfudo, i helpu dinasyddion yr AEE sy'n byw yng Nghymru a'u cefnogi i ymgeisio'n llwyddiannus am statws preswylydd sefydlog.

Lansiwyd ein gwefan "Paratoi Cymru", sy'n ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth i bobl Cymru am y camau yr ydym yn eu cymryd i baratoi ar gyfer yr effaith sylweddol y bydd Brexit heb gytundeb yn ei chael. Rydym yn gweithio i sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy'n cael ei datblygu ar draws y DU yn berthnasol i Gymru ac yn adlewyrchu ei hanghenion. Os yw'n berthnasol, rydym yn rhannu'r wybodaeth hon gyda busnesau a rhanddeiliaid Cymru - yn arbennig drwy'r wefan. Rydym wedi lansio Porthol Brexit Busnes Cymru er mwyn helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit a dygymod â'r newidiadau a'r heriau sydd o'n blaen. Mae hyn yn cynnwys offeryn asesu i helpu busnesau i weld pa mor barod y maent ar gyfer Brexit, gan gynnig camau y dylid eu cymryd a'u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth eraill.

Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r estyniad arfaethedig i Erthygl 50 i geisio newidiadau i'r Datganiad Gwleidyddol i sicrhau'r berthynas â'r UE yn y dyfodol a osodwyd gennym yn Diogelu Dyfodol Cymru. Credwn fod mwyafrif yn y Senedd o blaid y math hwn o Brexit. Byddai ymrwymiad o'r fath yn golygu na fyddai perygl o ymadael heb gytundeb, ac yn golygu bod modd cychwyn ar gam nesaf y negodiadau gyda'r UE. Rydym am gael rhan tipyn mwy yn y negodiadau â'r UE. Gan fod nifer o'r meysydd sy'n gysylltiedig â'n perthynas yn y dyfodol wedi'u datganoli, mae rheidrwydd cyfansoddiadol i geisio ein cytundeb. Ar ben hynny, bydd gan nifer o feysydd eraill oblygiadau pwysig i fusnesau a dinasyddion Cymru, a rhaid i Lywodraeth Cymru gael eu cynnwys yn y materion hynny hefyd. Rydym hefyd yn dweud yn glir bod rhaid i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys mewn unrhyw gytundebau masnach y bydd y DU yn eu negodi ar gyfer y dyfodol. Gallent effeithio ar feysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli neu gael effeithiau dybryd ar fusnesau yng Nghymru.

Er ein bod eisoes wedi dweud hyn sawl gwaith, mae'n werth ailadrodd eto: dydy ymadael â'r UE ddim yn golygu bod Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop. Bydd ein ffrindiau a'n cymdogion yn Ewrop yn parhau i fod yn ffrindiau ac yn gymdogion i ni, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gydweithio i roi sylw i'r heriau cyffredin sydd o'n blaen. Yn wir, mae Cymru'n parhau i fod yn agored i fusnes, ac yn fan gwych i fuddsoddi, astudio a gweithio ynddo. Bydd Cymru'n parhau i edrych tuag allan a chymryd rhan weithredol ar y llwyfan Ewropeaidd, er ein bod yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru'n wlad agored, ac wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r UE, mae'n bwysicach nag erioed i werthu Cymru i'r byd a chyfarfod buddsoddwyr posib o bedwar ban byd.

Rydym yn croesawu'r byd a'i gorwelion, a lle bynnag y bydd cyfleoedd newydd yn codi, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner i helpu'n sectorau i ffynnu.